Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

 

Pwynt Technegol 1

 

1.    Mae'r geiriad yn rheoliad 19(b) yn adlewyrchu darpariaethau sy'n union yr un fath yn y Rheoliadau a ragflaenodd y rhain, sef Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1826) (Cy. 198). Mae'r geiriad yn rheoliad 19(b) hefyd yn adlewyrchu, yn fras, nifer sylweddol o ddarpariaethau deddfwriaethol eraill a geir yn Neddfau'r Cynulliad a'r DU ac mewn offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban ac sy'n creu pwerau mynediad er mwyn arolygu cofnodion sy'n cael eu prosesu a’u dal ar ffurf electronig.

2.    Mae'r ddarpariaeth, fel y'i drafftiwyd, yn sicrhau bod y rheoliad yn cwmpasu pob agwedd ar ystyried y cyfrifiadur/cyfarpar o dan sylw.

 

3.    Mae'r ddarpariaeth yn rhoi'r pwerau i Arolygwyr allu cael mynediad i'r cyfrifiadur, arolygu unrhyw gofnodion a gedwir arno a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur. Pe bai Arolygydd yn amau nad yw’r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio'n gywir (er enghraifft, bod cofnodion dyblyg a gwahanol i'w gilydd yn cael eu storio neu fod yr wybodaeth sy'n cael ei chofnodi yn anghywir neu fod yr Arolygydd yn amau bod twyll yn digwydd), neu fod meddalwedd yn ddiffygiol, byddai pwerau'r Arolygydd yn ddigonol i wirio sut y mae’r cyfrifiadur yn gweithredu. Er enghraifft, canfyddir yn achlysurol wrth wirio gwybodaeth adrodd ar brisiau bod y ffeil sy'n anfon data at yr AHDB wedi ei llygru, gan olygu bod data anghywir wedi eu hanfon.

 

Pwynt Technegol 2

 

4.    Mae rheoliad 29(1) yn darparu, os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8, neu gan dorri amodau'r drwydded honno, bod y person sy'n ymgymryd â'r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

 

5.    Mae rheoliad 8 yn darparu'n benodol bod trwydded yn cael ei rhoi ar gyfer "dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt". Mae'n glir, felly, fod y drosedd yn 29(1) yn ymwneud yn unig â dosbarthu carcasau drwy edrych arnynt ac nid â phob dosbarthiad.

 

Pwynt Rhinweddau 1

 

6.    Ni chafwyd unrhyw apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â rhoi trwyddedau dosbarthu o dan y ddarpariaeth hon na'r ddarpariaeth a'i rhagflaenodd. Proses weinyddol yw'r broses apelio yn hytrach nad un farnwrol.

 

7.    Caiff ceisiadau am drwyddedau dosbarthu o dan y Rheoliadau hyn eu prosesu ar ran Gweinidogion Cymru gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (yr Asiantaeth). Mae gan yr Asiantaeth gytundeb cilyddol ag Arolygwyr yr Alban sy'n golygu y gall unrhyw apêl yn erbyn rhoi trwydded dosbarthwr yng Nghymru neu Loegr gan Arolygydd o'r Asiantaeth gael ei hystyried gan Arolygwyr yr Alban fel person penodedig. Mae Gweinidogion Cymru yn ategu barn yr Asiantaeth bod rhaid i'r person a benodir y mae'n rhaid cyflwyno apêl iddo feddu ar wybodaeth am sut i ddosbarthu carcasau, ac mae gan Arolygwyr yr wybodaeth honno. Er mwyn cael safbwynt annibynnol, lluniodd yr Asiantaeth y cytundeb cilyddol rhwng yr Alban a'r Asiantaeth (sy'n gweithredu ar ran Cymru a Lloegr). Mae Gweinidogion Cymru yn rhagweld, felly, pe bai angen gwneud apêl, y byddai Arolygydd o'r Alban yn gweithredu fel 'person a benodir' o dan reoliad 10.

 

Pwynt Rhinweddau 2

 

8.    Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod y diwydiant eisoes yn cydymffurfio â'r gofyniad newydd i gynnwys y "categori pwysau marw U4" mewn dosbarthiadau buchol cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu.